Arogli'n beraidd mae fy nardus
Wrth wledda ar y cariad rhad;
Sêl yn tanio erbyn pechod -
Caru delw sancteiddhad;
Torri ymaith law a llygad,
Ynghydag uchel drem i lawr;
Neb yn deilwng o'i ddyrchafu
Onid Iesu, Frenin mawr!
O am bara i yfed beunydd
O ffrydiau'r iachawdwriaeth fawr
Nes fy nghwbwl ddisychedu
Am ddarfodedig bethau'r llawr;
Byw dan ddisgwyl am fy Arglwydd,
Bod, pan ddêl, yn effro iawn
I agoryd iddo'n ebrwydd
A mwynhau ei ddelw'n llawn.
Rhyfeddu 'r wyf â mawr ryfeddod
Pan ddêl i ben y ddedwydd awr
Caf weld fy meddwl,
sy yma'n gwibio
Ar ôl teganau gwael y llawr,
Wedi ei dragwyddol setlo
Ar wrthrych mawr ei Berson Ef,
A diysgog gydymffurfio
 phur a sanctaidd ddeddfau'r nef.
'r wyf :: a wna' i
Tonau [8787D]
gwelir: |
Smelling sweetly is my nard,
To regale the free love;
Zeal burning against sin -
Loving the image of sanctification;
To cut off hand and eye,
Together with lofty gaze below;
None worthy of his exaltation
But Jesus, a great King!
O to continue to drink daily
Of the streams of the great salvation
Until my thirst is completely quenched
For transient things below;
To live in expectation of my Lord,
To be, whenever he come, completely alert
To open up to him immediately
And enjoy the sight of him fully.
I will wonder with great wonder
When comes to pass the happy hour
When I get to see my thought,
which is here flitting
After base trinkets of earth,
After its eternal settling
On the great matter of His Person,
And immovable conforming
To the pure and holy laws of heaven.
:: tr. 2009 Richard B Gillion |
Sweetly spreads my spikenard's fragrance Let me drink for ever deeply I shall feel a mighty wonder |